Cyflwyniad cyntaf cydweithfa celfyddydau sonig GWRANDO
Capeli: Capel Crannog

Roedd noson 01/07/07 yn ffrwyth prosiect pythefnos GWRANDO yng Nghapel Crannog, sef ymchwiliad safle-benodol i rôl newidiol y capel yn niwylliant, cymuned a thirwedd Cymru. Mae grwp o bum artist wedi creu gwaith mewn ymateb i’r safle, a hefyd wedi creu ffyrdd i’r gymuned a’r cyhoedd gyfranogi yn y prosiect, gan gynnwys côr dros dro, cyfansoddiadau a darnau byrfyfyr cerddorol, gemau rhyngweithiol, a chyfleoedd i helpu i ddogfennu’r prosiect. Yn gyfan gwbl, bu dros gant o bobl wrthi’n cymryd rhan yn y prosiect yn gwneud seiniau, cerddoriaeth, ffilmiau, tynnu ffotograffau ac yn rhoi geiriau, lluniau a phaentiadau inni. Bydd yr archif unigryw hwn yn rhan o arddangosfa ar-lein/deithiol, a fydd hefyd yn cyflwyno ffilm, cerddoriaeth, a gwaith celf yn ychwanegol at y rheiny a gyflwynwyd heno. Gweler www.gwrando.org am ragor o fanylion.


Rhaglen

Ffilm (Whittaker)
Pererin Digidol

Tri darn o waith ar gyfer llais byw a recordiau/chwaraewyr recordiau (Laurens/Whittaker)
Mi Glywaf Dyner Lais
Mae D’eisiau Di Bob Awr (haniaethol)
Pererin Wyf/Amazing Grace

Tri emyn gan y Côr
Sanctaidd
Mae D’eisiau Di Bob Awr
Dechrau Canu, Dechrau Canmol

Ffilmiau byr (Whittaker)
Capeli: Capel Crannog (Preliminary investigation) (2:42)
Ar ddraws y cwm (1:00)
Vestry #19 (0:54)
Vestry #21 (3:15)
Capeli: Capel Crannog Documentary film (work in progress) (9:08)


Bydd Aled Roberts, cadeirydd Canolfan Crannog a gynigiodd y prosiect lleoliad hwn i grwp GWRANDO, yn dweud ychydig o eiriau…

Diolch o galon i bawb a gymerodd ran. Diolch yn arbennig i Frieda a Chanolfan Crannog, i’r artistiaid: Maura Hazelden, Penny Jones, Sarah Roberts, a Louise Bird, i’r cerddorion: Frank a Jasmine Janiurek, Ros Hudis, a Harriet Earis, ac i bawb a ganodd yn y côr!

Mae DVDau o'r digwyddiad yn awr ar gael i'w harchebu, am fwy o wybodaeth ffoniwch 07791703208 neu ysgrifennwch at GWRANDO, d/o Abereifed Cottage, Llechryd, Aberteifi, SA43 2QN.

ENGLISH

listen